English

FOR URGENT ADVICE PLEASE CALL THE SAMARITANS TODAY 116 123

FOR URGENT ADVICE PLEASE CALL THE SAMARITANS TODAY 116 123

DWI’N FFEINDIO PETHAU TIPYN BACH YN ANODD

Yn gyntaf, mae’n iawn i ddim yn fod yn iawn! Mae llawer o’ch cydweithwyr wedi fod trwy hyn a wedi ddod allan yr ochr arall. Gall gweld rhai o’i straeon yma:

#WASTKeepTalking fideos

Os nad ydych yn teimlo’n grêt ac yn ansicr am sut i symud ymlaen, CLICIWCH YMA – bydd y GWIRWYR SYMPTOMAU yn gallu helpu chi i weithio allan beth yw’r problem and beth gall helpu. Peidiwch anghofio, os ydych angen cymorth nawr, neu mewn argyfwng, cliciwch yma.

 

 

 

 

Ddarllen yn Dda ar Gyfer Iechyd Meddwl

Mae’r Rhaglen Darllen yn Dda yn helpu pobl i ddeall a rheoli euch iechyd meddwl. Mae’r llyfrau (y mae rhai ohonynt ar gael yn Cymraeg) yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am iechyd meddwl a dementia, ac maent wedi’u hargymell gan weithwyr proffesiynol iechyd meddwl. Mae’r llyfrau ar gael yn eich llyfrgell leol, hyd yn oed os nad ydych chi’n aelod.

 

Mynediad cyflym i therapi - nawr heb atgyfeiriad

Gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, mae WAST bellach wedi rhoi mynediad cyflym ar waith i’r platfform Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) ar-lein SilverCloud. Rhaglen ar sail tystiolaeth yw hon sy’n debygol o helpu gyda phryder, iselder ysbryd, straen a materion eraill gan gynnwys problemau cysgu, galar a pherthnasoedd. Byddwch yn derbyn adolygiadau bob pythefnos a fydd yn cael eu hamserlennu gyda’ch Cydlynydd CBT Ar-lein i’ch cefnogi trwy’r rhaglen.

Y ffrâm amser dan arweiniad ar gyfer cwblhau yw 12 wythnos, ond bydd gennych fynediad i’r platfform am gyfanswm o 12 mis o’r dyddiad cofrestru. Un o brif fuddion y rhaglen hon yw y gallwch chi dipio i mewn ac allan cymaint neu gyn lleied ag y credwch sy’n addas. Mae’r rhaglen yn hawdd i ddefnyddio a mae defnyddio offer rhyngweithiol yn gwneud eich profiad yn ddiddorol ac yn ysgogol.

I gael mynediad i’r platfform, y gydd sydd angen wneud yw llenwi’r ffurflen gofrestru yma, a’i hanfon ymlaen i’r cyfeiriad e-bost sydd wedi’i gynnwys ar y ffurflen. Byddwch yn derbyn e-bost gyda’ch manylion mewngofnodi ac yna gallwch ddechrau defnyddio’r platfform

Gallwch hefyd cael mynediad i CBT ar-lein trwy iechyd galwedigaethol os angen.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma 

Llenwi’r ffurflen gofrestru yma

Monitro Gweithredol yng Nghymru - Mind

Mae eich iechyd meddwl yn cyfrif. Rydyn ni yn Mind yn credu y dylai unrhyw un sy’n cael problemau iechyd meddwl ysgafn i ganolig allu gael y cymorth a’r gefnogaeth y mae ei angen, pryd mae ei angen. Dyna pam Mind bod yn gweithio gyda Meddygon Teulu, Byrddau Iechyd Lleol a’r rhwydwaith Mind lleol ledled Cymru i ddarparu Monitro Gweithredol, ein gwasanaeth ymyrraeth cynnar.

TRiM

Mae’r Rhaglen Rheoli Risg Trawma (TRiM) yn system cymorth cymheiriaid sydd wedi’i chynllunio i nodi’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu salwch seicolegol o ganlyniad i ddigwyddiad trawmatig.

Mae Ymarferwyr TRiM wedi cael hyfforddiant i’w galluogi i ddeall yr effeithiau y gall digwyddiadau trawmatig eu cael ar bobl.

Nid cwnselwyr na therapyddion ydynt ond maent yno i wrando, cynnig cyngor ymarferol a chyfeirio at gymorth arbenigol.

Gellir defnyddio TRiM 48-72 awr ar ôl digwyddiad gofidus, ac mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol.

E-bost Trauma.Incident@wales.nhs.uk am ffurflen atgyfeirio.

Ffon: 0300 123 9211

Cymorth Gwyneb i wyneb - Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol

Mae Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol ar waith ym mhob rhan o Gymru. Yn gyffredinol, nid yw hyn yn rhan o’r gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn eich ardal chi, ac mae’n canolbwyntio ar helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl cyffredin fel pryder ac iselder. Yn aml byddant yn cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb a grwpiau, trwy’r holl wasanaethau a gynigir pethau a ddyluniwyd ar gyfer eu poblogaethau lleol. Nodir rhai enghreifftiau isod:

Cardiff and Vale of Glamorgan – http://www.stepiau.org/

Ceredigion, Pembrokeshire and Carmarthenshire – http://www.iawn.wales.nhs.uk/home

Swansea Bay – http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/page/47545

Chwiliwch ar-lein neu cysylltwch â’ch meddygfa i gael mwy o wybodaeth am sut i gael mynediad at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol.

Iechyd Galwedigaethol

Dydd Llun i Dydd Gwener (ddim yn cynnwys gwyliau banc)

Cylch gwaith iechyd galwedigaethol mewnol a wneir er mwyn cefnogi gweithwyr a rheolwyr pan allai gwaith fod yn effeithio ar iechyd. Gall rheolwyr gyfeirio at OH gyda chaniatâd gweithwyr neu  gall gweithwyr hunangyfeirio i OH.

Gwasaneth Cymorth Lles

Gall eich Tîm Lles ddarparu gwybodaeth arbenigol a chefnogaeth i gyfarfod eich anghenion unigol sydd wedi’i deilwra a’i seilio ar dystioilaeth.  Gall hyn gynnwys cyfeirio i adnoddau a gwasanaethau iechyd meddwl a ffisegol yn o gystal a ffisiotherapi.

Mae eich Tim Lles ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am-4pm.  Ni does angen atgyfeiriad, dim ond codir ffon neu anfon e-bost atom.  Mae materion Lles yn gwbl gyfrinachol.

Ebost:  Wellbeing.Support.Service@wales.nhs.uk

Ffon:  0300 321 4700

Cyrchu triniaeth ar gyfer trawma

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell therapi ymddygiad gwybyddol sy’n canolbwyntio ar drawma neu EMDR (Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiad Llygaid) ar gyfer anhwylder straen wedi trawma (PTSD).  Mae gwasanaeth straen trawmatig Cymru gyfan yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, ond mae gwasanaethau ar gael trwy’r GIG mewn rhai lleoliadau. Gofynnwch eich GP are gyfer hyn. Mae rhestr o ymarferwyr CBT dros y DU i’w gweld isod.

TASC - Elusen y Gwasanaeth Ambiwlans

Gall TASC ariannu cefnogaeth seicolegol ar gyfer unrhyw staff ambiwlans sy’n cael trafferth gyda salwch sy’n gysylltiedig â straen neu’n cael trafferth ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Ar hyn o bryd gall TASC hefyd drefnu cefnogaeth lles seicolegol preswyl trwy Ganolfannau Triniaeth yr Heddlu. Mae’r cymorth yma yn gallu darparu mynediad i therapïau lles amrywiol gyda chyfle am ychydig o sesiynau unigol gyda chwnselydd.

I’r rhai sydd angen cwnsela dwysach, mae TASC wedi comisiynu ‘Rewind Treatment’ gan y Red Poppy Company, model o gefnogaeth gwnsela i’r rhai yr effeithir arnynt gan drawma o unrhyw fath. Dyrennir cwnselydd i chi gerllaw, fel na fydd yn rhaid i chi deithio’n bell nac aros oddi cartref i dderbyn y driniaeth hon.

Mynediad i linell argyfwng staff ambiwlans 24/7 –  0300 373 0898

Mind Cymru

Ynghyd ag 20 o gymdeithasau Meddwl lleol yng Nghymru mae MIND Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd meddwl yn y wlad hon. Bydd gan eich MIND lleol lwyth o wybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau a chymorth lleol yn eich ardal chi

Cruse bereavement

Marwolaethau yn y gwaith, neu yn eich bywyd personol 

Mae Llinell Gymorth Genedlaethol Ffôn Rydd Gofal Profedigaeth Cruse yn cael ei staffio gan wirfoddolwyr profedigaeth hyfforddedig sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol i unrhyw un y mae profedigaeth yn effeithio arno.

Gall tystio marwolaeth ei gwneud hi’n anodd diffodd, hyd yn oed pan fydd y shifft drosodd. Mae staff y gwasanaethau brys yn debygol o wynebu colled yn fwy rheolaidd na llawer o broffesiynau eraill ac nid yw’n anghyffredin i’r profiadau hyn gael effaith ar les meddyliol ac emosiynol. Dyna pam mae ‘You Behind the Uniform’ yn cynnig cefnogaeth hunanofal a chyfrinachol wedi’i ddylunio o amgylch eich anghenion.

2wish

Cefnogaeth pan fydd plant a phobl ifanc yn marw’n sydyn

Pan fydd teulu’n colli plentyn neu oedolyn ifanc, mae’r effeithiau’n ddinistriol i bawb oedd yn eu hadnabod ac yn eu caru.

Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pawb sy’n cael eu heffeithio gan farwolaeth sydyn plentyn neu oedolyn ifanc 25 mlwydd oed neu iau ledled Cymru yn cael y cymorth maen nhw’n ei haeddu.

 

Men’s Sheds

Mae Men’s Sheds yn fannau cymunedol i ddynion gysylltu, sgwrsio a chreu. Mae’r gweithgareddau yn aml yn debyg i weithgareddau siediau gardd, ond i grwpiau o ddynion fwynhau gyda’i gilydd. Maen nhw’n helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd, ond yn bwysicaf oll, maen nhw’n hwyl. Mae yna lawer o Men’s Sheds yng Nghymru, i ddod o hyd i un clic yma

CBT

Yma gallwch ddod o hyd i fanylion yr holl Therapyddion CBT achrededig swyddogol. Mae’r holl ymarferwyr a restrir yma yn aelodau achrededig naill ai o Gymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP), sef y sefydliad arweiniol ar gyfer CBT yn y DU ac Iwerddon, neu’r Gymdeithas Therapi Ymddygiad Emosiynol Rhesymegol (AREBT).

Woody’s Lodge

Mae Woody’s yn canolbwyntio ar gefnogaeth i staff WAST sy’n gadael y sefydliad neu sydd eisoes wedi gadael (yn ogystal â chyn-filwyr y lluoedd arfog). Gallant gynnig cyngor a chefnogaeth arbenigol ar dai, budd-daliadau, atgyfeiriadau’r GIG, yn ogystal â chymdeithasu a diwrnodau teulu.

Mae dau gyfrinfa yng Nghymru, un yn y Barri a’r llall ym Mae Colwyn. I ddarganfod mwy amdanynt, ewch i’r wefan isod

Brwydro yn erbyn Stigma - Hub of Hope

Cronfa ddata iechyd meddwl genedlaethol gyntaf o’i math yw’r Hwb Gobaith sy’n ddod i’w gilydd sefydliadau ac elusennau, mawr a bach, o bob rhan o’r wlad sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl, mewn un lle.

Profedigaeth hunanladdiad - Mae help wrth law

Adnodd ar gyfer pobl mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad a marwolaeth sydyn, drawmatig arall yng Nghymru a Lloegr.

Goroeswyr Profedigaeth trwy Hunanladdiad

Mae SOBS yn ceisio diwallu’r anghenion a goresgyn yr unigedd a brofir gan bobl dros 18 oed sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad.

Canllawiau Hunangymorth

Canllawiau hunangymorth ar gael yn Saesneg a Chymraeg, gan gynnwys rhaglen dywysedig ar Activate your Life and Support Plus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Helpwr Arian

Mae HelpwrArian yma i helpu, felly eich bod yn gallu symud ymlaen gyda bywyd. Mae nhw yn darparu cyngor ariannol a phensiynau clir ar-lein a dros y ffôn.  Allwn hefyd eich cyfeirio at wasanaethau y gallwch ymddiried ynddo, os ydych angen mwy o gefnogaeth. Help ariannol mewn un lle, sydd yn rhad ac ddim i’w ddefnyddio.

Arian bob dydd – Arbed arian – Gweithio a budd-daliadau – Cartrefi – Trafferthion ariannol – Teulu a gofal – Pensiynau ac ymddeol

Cwtsh Creadigol

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi datblygu gwefan newydd sy’n cynnig cysur y celfyddydau i wella lles gweithwyr gofal iechyd.

Mae’r Cwtsh Creadigol yn llawn gweithgareddau hwyliog sydd â’r nod o godi ysbryd a hybu lles staff y GIG a gofal cymdeithasol.

Mewn fideos byr, yn Gymraeg a Saesneg, mae artistiaid o bob cwr o Gymru yn cynnig gweithgareddau creadigol gan gynnwys crefftio, paentio, ysgrifennu, darlunio, dawnsio, canu, ffilm a ffotograffiaeth.

Cliciwch yma am gyflwyniad fideo byr:  Cwtsh Creadigol | Cultural Cwtsh – YouTube

Canopi

Mae Canopi yn wasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim sy’n rhoi mynediad at gymorth iechyd meddwl a less i staff sy’n gweithio yn sefydliadau gofal cymdeithasol a’r GIG yng Nghymru

Allu Canopi rhoi cymorth i’r rhai sydd a symptomau a chyflyrau megis, teimo’n drech na gofidus, gorbryder ac iselder a anhwylder straen wedi trawma.

Trwy Canopi gallant gael mynediat at:

Hunangymorth – Hunangymorth dan arweiniad – Cymorth gan gymheiriad – Ymgynghoriadau wyneb-yn-wyneb rhithwir – Gwasanaeth Cymorth Alcohol

Ffon:  0800 058 2738

Y Sefydliad Iechyd Meddwl

Iechyd meddwl da i bawb gyda cymorth gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl

DWI’N FFEINDIO PETHAU TIPYN BACH YN ANODD

Nid yw’r wybodaeth a’r adnoddau trwy’r wefan hon yn eiddo i WAST, ond cydnabyddir eu bod yn werthfawr o ran cynnal a chefnogi iechyd meddwl da i’n gweithlu.

e: wellbeing.support.service@wales.nhs.uk

FOR URGENT ADVICE PLEASE CALL THE SAMARITANS TODAY 116 123