English

FOR URGENT ADVICE PLEASE CALL THE SAMARITANS TODAY 116 123

FOR URGENT ADVICE PLEASE CALL THE SAMARITANS TODAY 116 123

DWI ANGEN CYMORTH NAWR

Os ydych chi new rhywun ti’n adnabod mewn argyfwng, peidiwch aros i gael cymorth. Mae’r mwyafrif o wasanaethau yma ar gael dros Cymru 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Bydd gwasanaeth meddygon allan o oriau ar gael i helpu chi, neu’r person dan sylw i gael y cymorth cywir, yn enwedig os ydych chi’n poeni am hunanladdiad. Mae gan rhannau o Gymru, fel Ceredigion a Llanelli, sydd efo polisi ‘drws agored’ i wasanaethau argyfwng, ble gall unrhywun gweld a cael cymorth. Mae llawer o wasanaethau ar gael dros y ffôn neu ar-lein i bobl mewn argyfwng fel rhain isod:

Samaritans 24/7 – freephone 116 123
Rhywun fydd yn wrando a helpu ar unwaith

Ydych chi’n gwybod bod llawer o ganghennau Samaritans medru gweld pobl mewn person? Edrycha ar eu cyfeirlyf ar gyfer cangen yn agos atoch chi.

Mae Samaritans ar gael o gwmpas y gloch, 24 awr y dydd, 365 ddiwrnod y flwyddyn. Os ydych angen ymateb ar unwaith, mae’n well i gysylltu ar y ffôn. Nid oes angen fod yn hunanladdol i gysylltu a nhw.

Wyt ti’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl?

Os ydych efo mynediad i wasanaethau iechyd meddwl, er enghraifft os gennych Nyrs Secicatrig Cymunedol neu yn ymweld a gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol arall, efallai gallech chi cael mynediad i’r Tîm Argyfwn lleol. Galw’r rhif a ddarperir gan y tîm – gall hyn cael neges wedi’i recordio efo rhif arall i galw all o oriau gwaith.

Meddyg neu Meddyg Allan o Oriau

Mae eich meddyg teuluol yn pwynt cysyllt allweddol pan oes rhywun mewn argyfwng, yn enwedig pan fod risg uniongyrchol i fywyd. Bydd yn adnabod y wasanaethau perthnasol yn eich ardal fydd ar gael dydd a nôs, a bydd y person gorau i ddanfon pobl i’r wasanaeth cywir, tu allan o dydd Llun i ddydd Gwener, 8 o’r gloch y bore i 6:30 o’r gloch y nôs (heblaw gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus).

Mae’r gwasanaeth meddygol allan o oriau yn ddarparu gofal iechyd ar gyfer problemau meddygol argyfwng tu allan i oriau llawdriniaeth arferol. Mae gwasanaethau argyfwng Swansea Bay, Hywel Dda, Powys ac Ardaloedd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar gael trwy deialu 111. Ar gyfer ardaloedd arall, defnyddiwch y linc yma.

Galw llinech gymorth
Tecstiwch HELP i 81066

GALW yw llinell rhydd a chyfrinachol ar gyfer cefnogaeth emosiynol a wybodaeth i bobl efo pryderon iechyd meddwl neu unrhywbeth cysylltiedig.

Unrhywun sydd yn poeni am iechyd meddwl, neu iechyd meddwl ffrind neu perthynas gall cael mynediad i’r gwasanaeth.

TASC - The Ambulance Staff Charity

Gofal ar unwaith a pharhaus hunanladdiad i iechyd meddwl i staff ambiwlans.

Hollol annibynnol a chyfrinachol ac ar gael 27/4

Llinell Argyfwng TASC – 0300 373 0898

 

TRiM

Mae’r Rhaglen Rheoli Risg Trawma (TRiM) yn system cymorth cymheiriaid sydd wedi’i chynllunio i nodi’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu salwch seicolegol o ganlyniad i ddigwyddiad trawmatig.

Mae Ymarferwyr TRiM wedi cael hyfforddiant i’w galluogi i ddeall yr effeithiau y gall digwyddiadau trawmatig eu cael ar bobl.

Nid cwnselwyr na therapyddion ydynt ond maent yno i wrando, cynnig cyngor ymarferol a chyfeirio at gymorth arbenigol.

Gellir defnyddio TRiM 48-72 awr ar ôl digwyddiad gofidus, ac mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol.

E-bost Trauma.Incident@wales.nhs.uk am ffurflen atgyfeirio.

Ffon:  0300 123 9211

DAN 24
Cymorth cyffuriau ac alcohol

DAN 24/7 yw’r llinell cymorth ar gyfel cyffuriau ac alcohol i Gymru. Gall gynnig asesiad cychwynnol i sefydlu angenion unigolion, atgyfeirio at wasanaethau cyffuriau ac alcohol lleol a rhanbarthol, gwybodaeth am gyffuriau ac alcohol, a’u heffeithiau, gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer meddygon teulu lleol, cyfnewid nodwyddau, deintyddion a gwasanaethau iechyd cysylltiedig eraill ac a ystod eang o ymyriadau byr gan gynnwys cyfweld ysgogol, lleihau niwed a rheoli gorddos.

Siarad i rhywun, unrhywun

Weithiau mae’n anodd i siariad amdon’ch teimladau efo ffrindiau neu eich teulu. Mae’n gyffredin i boeni am gynhyrfu’r pobl rydych yn poeni amdano, a teimlo’n nerfus am feth bydd bobl yn meddwl, neu sut gallai effeithio ar eich perthnasoedd.

Efallai byddech yn teimlo’n fwy cyfforddus yn agor lan i ffrindiau neu deulu na gweithwyr proffesiynol, neu efallai bydd yn haws i chi siariad i weithwyr proffesiynol (fel eich meddyg) yn gyntaf.

Pryd bynnag chi’n teimlo’n barod, gallai’r tips yma oddi wrth Mind helpu chi i ddechrau’r sgwrs.

Iechyd Galwedigaethol

Dydd Llun – Dydd Gwener (ddim yn cynnwys gwyliau banc)

Cylch gwaith iechyd galwedigaethol mewnol a wneir er mwyn cefnogi gweithwyr a rheolwyr pan allai gwaith fod yn effeithio ar iechyd. Gall rheolwyr gyfeirio at OH gyda chaniatâd gweithwyr a hefyd gall gweithwyr hunangyfeirio at OH.

Gwasanaeth Cymorth Lles

Gall eich Tîm Lles ddarparu gwybodaeth arbenigol a chefnogaeth i gyfarfod eich anghenion unigol sydd wedi’i deilwra a’i seilio ar dystioilaeth.  Gall hyn gynnwys cyfeirio i adnoddau a gwasanaethau iechyd meddwl a ffisegol yn o gystal a ffisiotherapi.

Mae eich Tim Lles ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am-4pm.  Ni does angen atgyfeiriad, dim ond codir ffon neu anfon e-bost atom.  Mae materion Lles yn gwbl gyfrinachol.

Ebost:  Wellbeing.Support.Service@wales.nhs.uk

Ffon:  0300 321 4700

Canopi

Mae Canopi yn wasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim sy’n rhoi mynediad at gymorth iechyd meddwl a less i staff sy’n gweithio yn sefydliadau gofal cymdeithasol a’r GIG yng Nghymru

Allu Canopi rhoi cymorth i’r rhai sydd a symptomau a chyflyrau megis, teimo’n drech na gofidus, gorbryder ac iselder a anhwylder straen wedi trawma.

Trwy Canopi gallant gael mynediat at:

Hunangymorth – Hunangymorth dan arweiniad – Cymorth gan gymheiriad – Ymgynghoriadau wyneb-yn-wyneb rhithwir – Gwasanaeth Cymorth Alcohol

Ffon:  0800 058 2738

2wish

Cefnogaeth pan fydd plant a phobl ifanc yn marw’n sydyn

Pan fydd teulu’n colli plentyn neu oedolyn ifanc, mae’r effeithiau’n ddinistriol i bawb oedd yn eu hadnabod ac yn eu caru.

Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pawb sy’n cael eu heffeithio gan farwolaeth sydyn plentyn neu oedolyn ifanc 25 mlwydd oed neu iau ledled Cymru yn cael y cymorth maen nhw’n ei haeddu.

Helpwr Arian

Mae HelpwrArian yma i helpu, felly eich bod yn gallu symud ymlaen gyda bywyd. Mae nhw yn darparu cyngor ariannol a phensiynau clir ar-lein a dros y ffôn.  Allwn hefyd eich cyfeirio at wasanaethau y gallwch ymddiried ynddo, os ydych angen mwy o gefnogaeth. Help ariannol mewn un lle, sydd yn rhad ac ddim i’w ddefnyddio.

Arian bob dydd – Arbed arian – Gweithio a budd-daliadau – Cartrefi – Trafferthion ariannol – Teulu a gofal – Pensiynau ac ymddeol

DWI ANGEN CYMORTH NAWR

Nid yw’r wybodaeth a’r adnoddau trwy’r wefan hon yn eiddo i WAST, ond cydnabyddir eu bod yn werthfawr o ran cynnal a chefnogi iechyd meddwl da i’n gweithlu.

e: wellbeing.support.service@wales.nhs.uk

FOR URGENT ADVICE PLEASE CALL THE SAMARITANS TODAY 116 123