Diolch am gymrud yr amser i edrych ar ôl eich iechyd meddwl. Mae’n ar bwysig i edrych ar ôl eich iechyd corfforol, ond mae llawer ohonom ddim yn talu digon o sylw iddo. Mae’r adnoddau isod efo tystiolaeth eu bod yn gweithio i gefnogi iechyd meddwl da. Gellir eu defnyddio gan unigolion neu gan dimau i gynnal neu wella eu iechyd meddwl.
Mae’r Pum Ffordd i Lles yn gyfwerth â llesiant â ‘pum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd’. Mae’r rhain yn seiliedig ar adolygiad y Sefydliad Economeg Newydd [2008] o’r dystiolaeth fwyaf diweddar o gamau gweithredu unigol sy’n hyrwyddo lles. Mae’r ddolen isod yn mynd â chi at bethau y gallwch chi eu gwneud mewn munud, awr neu fwy i wella’ch iechyd meddwl.
Mae’r Rhaglen Darllen yn Dda yn helpu pobl i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl. Mae’r llyfrau (y mae rhai ohonynt ar gael yn Cymraeg) yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am iechyd meddwl a dementia, ac maent wedi’u hargymell gan weithwyr proffesiynol iechyd meddwl. Mae’r llyfrau ar gael yn eich llyfrgell leol, hyd yn oed os nad ydych chi’n aelod. I weld y llyfrau yma:
Gall y gwasanaeth cymorth lles gynnig mynediad i drwydded Headsted i gydweithwyr sy’n defnyddio therapi derbyn ac ymrwymo (ACT) i’ch helpu chi i adeiladu bywyd cyfoethog ac ystyrlon.
E-bostiwch Lles.Support.Service@wales.nhs.uk i gael mwy o wybodaeth ar sut i gael trwydded neu i gael mwy o wybodaeth am Headsted ac ACT ewch i:
Mae gan wefan NHS One You lawer o wybodaeth ac offer i helpu pobl i gynnal iechyd meddwl da, gan gynnwys adran ar adeiladu cynllun gweithredu personol ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol da.
Er mwyn eich helpu i reoli eich iechyd meddwl a’ch lles, mae’r Elusen i Weision Sifil wedi dwyn ynghyd yr adnoddau gwytnwch mwyaf poblogaidd mewn fformat hawdd ei ddefnyddio.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) wedi datblygu’r canllaw caledwch meddyliol hwn sy’n rhoi awgrymiadau ar sut i reoli straen a chefnogi ei gilydd.
Mae Ychwanegu at Eich Bywyd yn wiriad iechyd GIG Cymru am ddim i’ch helpu chi i fyw’n hirach, teimlo’n well, ac i gadw’n iach ac yn egnïol i’r dyfodol. Gall eich helpu i ddarganfod mwy am eich iechyd, dysgu’r camau syml y gallwch eu cymryd i gadw’n heini, a darganfod gwasanaethau lleol i’ch helpu i wneud newid cadarnhaol yn eich bywyd.
Mae HelpwrArian yma i helpu, felly eich bod yn gallu symud ymlaen gyda bywyd. Mae nhw yn darparu cyngor ariannol a phensiynau clir ar-lein a dros y ffôn. Allwn hefyd eich cyfeirio at wasanaethau y gallwch ymddiried ynddo, os ydych angen mwy o gefnogaeth. Help ariannol mewn un lle, sydd yn rhad ac ddim i’w ddefnyddio.
Arian bob dydd – Arbed arian – Gweithio a budd-daliadau – Cartrefi – Trafferthion ariannol – Teulu a gofal – Pensiynau ac ymddeol
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi datblygu gwefan newydd sy’n cynnig cysur y celfyddydau i wella lles gweithwyr gofal iechyd.
Mae’r Cwtsh Creadigol yn llawn gweithgareddau hwyliog sydd â’r nod o godi ysbryd a hybu lles staff y GIG a gofal cymdeithasol.
Mewn fideos byr, yn Gymraeg a Saesneg, mae artistiaid o bob cwr o Gymru yn cynnig gweithgareddau creadigol gan gynnwys crefftio, paentio, ysgrifennu, darlunio, dawnsio, canu, ffilm a ffotograffiaeth.
Cliciwch yma am gyflwyniad fideo byr: Cwtsh Creadigol | Cultural Cwtsh – YouTube
Iechyd meddwl da i bawb gyda cymorth gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl
Mae SilverCloud yn gwrs ar-lein am ddim sy’n hawdd ei ddefnyddio ac yn cynnig help ar gyfer amrywiaeth o bynciau gwahanol yn ogystal â helpu i ddatblygu sgiliau i reoli iechyd meddwl a lles.
Mae cefnogwr hyfforddedig ar gael i helpu i’ch arwain a’ch annog drwy gydol y rhaglen gydag adolygiadau rheolaidd
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan Digital Mental Health Solutions in the UK | SilverCloud Health
Mae’r gwasanaeth ar gael heb atgyfeiriad trwy: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/