Os oeddech chi i ffwrdd yn sâl oherwydd straen, mae’n bwysig eich bod chi’n meddwl yn ofalus am sut roedd gwaith yn effeithio ar eich iechyd meddwl, a’r hyn y gallwch chi a’ch rheolwr llinell ei wneud yn wahanol. Mae gan yr HSE rywfaint o ganllaw defnyddiol ar hyn, gan gynnwys adran ar yr hyn y mae’n rhaid i gyflogwyr ei wneud yn gyfreithiol.
Mae cyngor y GIG i bobl sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb salwch oherwydd problem iechyd meddwl i’w weld isod.
Mae gan Mind, yr elusen iechyd meddwl, rai awgrymiadau defnyddiol i bobl eu hystyried wrth ddychwelyd i’r gwaith o absenoldeb salwch.
Gellir dod o hyd i bolisi GIG Cymru sy’n rheoli mynychu yn y gwaith trwy’r ddolen isod
Mae’r RCN, GMB, Unsain ac Unite yn cydweithio’n agos â WAST ar wella lles gweithwyr. Dylech gysylltu â’ch cynrychiolaeth undeb pan fyddwch chi’n ystyried dychwelyd i’r gwaith. Gall eu cefnogaeth a’u mewnwelediadau fod yn ddefnyddiol i’ch helpu chi i feddwl am eich opsiynau. Gweler mewnrwyd WAST am fanylion cyswllt.
Mae Helpwr Arian yn darparu cyngor ariannol ar-lein a dross y ffon. Am ddim i’w ddefnyddio ac yn gallu helpu gyda gweithio a budd-daliadau, trafferthion ariannol ac teulu a gofal.