English

FOR URGENT ADVICE PLEASE CALL THE SAMARITANS TODAY 116 123

FOR URGENT ADVICE PLEASE CALL THE SAMARITANS TODAY 116 123

RWY’N EDRYCH AM GYMORTH I RHYWUN ARALL

Mae llawer o’r adnoddau trwy’r porth hwn yn eich helpu i gefnogi pobl eraill ar y daith yn ôl i iechyd meddwl da. Beth am eistedd i lawr gyda’r person rydych chi’n poeni amdano a’i helpu i lywio’r porth a darganfod beth allai eu helpu?

I blant a pobl ifanc mewn argyfwng

Tecstiwch y Young Minds Crisis Messenger, am gefnogaeth 24/7 am ddim ledled y DU Os oes angen help brys arnoch, tecstiwch YM i 85258

 

Mae pob tecst  yn cael ei ateb gan wirfoddolwyr hyfforddedig, gyda chefnogaeth goruchwylwyr clinigol profiadol.

Ar gyfer Rheolwr, Tîm Iechyd Galwedigaethol neu i hunangyfeirio at TRiM

Mae’r Rhaglen Rheoli Risg Trawma (TRiM) yn system cymorth cymheiriaid sydd wedi’i chynllunio i nodi’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu salwch seicolegol o ganlyniad i ddigwyddiad trawmatig.

Mae Ymarferwyr TRiM wedi cael hyfforddiant i’w galluogi i ddeall yr effeithiau y gall digwyddiadau trawmatig eu cael ar bobl.

Nid cwnselwyr na therapyddion ydynt ond maent yno i wrando, cynnig cyngor ymarferol a chyfeirio at gymorth arbenigol.

Gellir defnyddio TRiM 48-72 awr ar ôl digwyddiad gofidus, ac mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol.

E-bost Trauma.Incident@wales.nhs.uk am ffurflen atgyfeirio.

Ffon:  0300 123 9211

I rhienu

Ffoniwch Linell Rhieni Young Minds am ddim Llun-Gwener rhwng 9.30am a 4pm

Os oes angen help brys arnoch, tecstiwch YM i 85258

2wish

Cefnogaeth pan fydd plant a phobl ifanc yn marw’n sydyn

Pan fydd teulu’n colli plentyn neu oedolyn ifanc, mae’r effeithiau’n ddinistriol i bawb oedd yn eu hadnabod ac yn eu caru.

Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pawb sy’n cael eu heffeithio gan farwolaeth sydyn plentyn neu oedolyn ifanc 25 mlwydd oed neu iau ledled Cymru yn cael y cymorth maen nhw’n ei haeddu.

Atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc

Nod Papyrus yw atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc Mae’n darparu gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i bobl ifanc arwain atal.

RWY’N EDRYCH AM GYMORTH I RHYWUN ARALL

Nid yw’r wybodaeth a’r adnoddau trwy’r wefan hon yn eiddo i WAST, ond cydnabyddir eu bod yn werthfawr o ran cynnal a chefnogi iechyd meddwl da i’n gweithlu.

e: wellbeing.support.service@wales.nhs.uk

FOR URGENT ADVICE PLEASE CALL THE SAMARITANS TODAY 116 123