English

FOR URGENT ADVICE PLEASE CALL THE SAMARITANS TODAY 116 123

FOR URGENT ADVICE PLEASE CALL THE SAMARITANS TODAY 116 123

Amodau defnyddio ac ymwadiad

Amodau Defnyddio ac Ymwadiad
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n cynnal y wefan hon. Mae’r amodau defnyddio hyn yn rheoli’r defnydd o’n gwefan www.ambulance.wales.nhs.uk

Cywirdeb
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y wefan hon yn gywir ac yn gyflawn.

Argaeledd
Ni allwn warantu mynediad heb rwystr i’r wefan hon na’r safleoedd y mae’n cysylltu iddyn nhw. Ni allwn gymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw niwed fydd yn codi o ddefnyddio’r wybodaeth hon.

Hawlfraint
Mae’r deunydd yn ein gwefan yn hawlfraint y goron © ac wedi’i ddiogelu heblaw bod cyfeiriad gwahanol. Ni allwch gopïo, atgynhyrchu nac ail ddosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n ein gwefan heblaw bod hyn yn unol â’n polisi awdurdodi’r cynnwys.

Ymwadiad
Nid yw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru’n gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y safleoedd gwe cysylltiol ac nid yw, o reidrwydd, yn cefnogi’r farn a fynegir ynddyn nhw.  Ni ddylai rhestru gael ei gymryd fel cadarnhad o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiol.

Y polisi cyswllt
Dewisir pob cyswllt o’r wefan hon drwy ddefnyddio ein polisi cyswllt. Darperir cysylltiadau er gwybodaeth a hwylustod yn unig. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am y safleoedd cyswllt na’r wybodaeth ynddyn nhw. Nid yw cyswllt yn awgrymu cadarnhad o safle; yn yr un modd, nid yw diffyg cyswllt â safle arbennig yn awgrymu diffyg cadarnhad. Nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau sy’n cael eu lletya ar y safle hwn. Fodd bynnag, nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich safle. Rhaid i’r tudalennau gael eu llwytho i ffenestr gyflawn y defnyddwyr. Ni ddylech ddefnyddio logo’r GIG i gysylltu i’n safle heb ganiatâd ymlaen llaw.

Defnyddio Delweddau
Mae’r enwau, delweddau a’r logos sy’n nodi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Galw Iechyd Cymru’n nodau perchnogol i’r GIG. Ni chaniateir copïo ein logo, delweddau nac unrhyw logo trydydd parti arall a geir drwy’r wefan hon heb ganiatâd ymlaen llaw y perchennog hawlfraint perthnasol.

Nawdd a Hysbysebu
Nid yw Gwasanaethau Ambiwlans Cymru’n derbyn nawdd nac yn dangos unrhyw hysbysebion ar ei wefan.

Diogelu rhag firw
Gwneir pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam wrth gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi ddefnyddio rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd sy’n cael ei lawr lwytho o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, amhariad na niwed i’ch data na’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o’r wefan hon.

Os byddwch chi’n anfon gwybodaeth bersonol i ni drwy’r wefan hon, bydd yn cael ei defnyddio’n unol â’n polisi preifatrwydd.  Cofiwch gyfeirio at ein polisi preifatrwydd i gael mwy o fanylion.

Ymwadiad e-bost
Nid yw e-bost y rhyngrwyd yn fodd diogel. Gall e-byst sy’n cael eu hanfon drwy’r rhyngrwyd gael eu rhyng-gipio a’u darllen gan rywun arall. Cofiwch hyn wrth benderfynu a ddylid anfon deunydd at Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Diweddariadau
Gallwn ar unrhyw adeg ddiwygio’r amodau a’r telerau heb rybudd. Cofiwch wirio’n rheolaidd. Wrth ddefnyddio gwefan(nau) Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar ôl gwneud newid dangosir eich bod yn derbyn y newid.

 

Amodau defnyddio ac ymwadiad

Nid yw’r wybodaeth a’r adnoddau trwy’r wefan hon yn eiddo i WAST, ond cydnabyddir eu bod yn werthfawr o ran cynnal a chefnogi iechyd meddwl da i’n gweithlu.

e: wellbeing.support.service@wales.nhs.uk

FOR URGENT ADVICE PLEASE CALL THE SAMARITANS TODAY 116 123