Mae llawer o’r adnoddau trwy’r porth hwn yn eich helpu i gefnogi pobl eraill ar y daith yn ôl i iechyd meddwl da. Beth am eistedd i lawr gyda’r person rydych chi’n poeni amdano a’i helpu i lywio’r porth a darganfod beth allai eu helpu?
Tecstiwch y Young Minds Crisis Messenger, am gefnogaeth 24/7 am ddim ledled y DU Os oes angen help brys arnoch, tecstiwch YM i 85258
Mae pob tecst yn cael ei ateb gan wirfoddolwyr hyfforddedig, gyda chefnogaeth goruchwylwyr clinigol profiadol.
Mae’r Rhaglen Rheoli Risg Trawma (TRiM) yn system cymorth cymheiriaid sydd wedi’i chynllunio i nodi’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu salwch seicolegol o ganlyniad i ddigwyddiad trawmatig.
Mae Ymarferwyr TRiM wedi cael hyfforddiant i’w galluogi i ddeall yr effeithiau y gall digwyddiadau trawmatig eu cael ar bobl.
Nid cwnselwyr na therapyddion ydynt ond maent yno i wrando, cynnig cyngor ymarferol a chyfeirio at gymorth arbenigol.
Gellir defnyddio TRiM 48-72 awr ar ôl digwyddiad gofidus, ac mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol.
E-bost Trauma.Incident@wales.nhs.uk am ffurflen atgyfeirio.
Ffon: 0300 123 9211
Ffoniwch Linell Rhieni Young Minds am ddim Llun-Gwener rhwng 9.30am a 4pm
Os oes angen help brys arnoch, tecstiwch YM i 85258
Cefnogaeth pan fydd plant a phobl ifanc yn marw’n sydyn
Pan fydd teulu’n colli plentyn neu oedolyn ifanc, mae’r effeithiau’n ddinistriol i bawb oedd yn eu hadnabod ac yn eu caru.
Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pawb sy’n cael eu heffeithio gan farwolaeth sydyn plentyn neu oedolyn ifanc 25 mlwydd oed neu iau ledled Cymru yn cael y cymorth maen nhw’n ei haeddu.
Nod Papyrus yw atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc Mae’n darparu gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i bobl ifanc arwain atal.